Event Details


Mae Da Byw yn cael ei gynnal ar y cyd a chymdeithas amaethyddol frenhinol Cymru yma yng Nghoed Coch, cartref teulu’r Fetherstonhaugh.


Gyda Harry Fetherstonhaugh yn lywydd CAFC eleni.

Mae Coed Coch yng nghalon ardal amaethyddol Gogledd Cymru, ac yn cael ei amaethu ar y cyd mewn partneriaeth yn cynnwys Rhys Willams, Emyr Jones a Harry. Cafodd y bartneriaeth ei sefydlu 6 mlynedd yn ol, pan gyflwynwyd diadell newydd o ddefaid I’r fferm. Diadell o Romneys yn tarddu o Seland Newydd. Rydym yn bridio fersiwn ein hunain erbyn hyn, ac yn eu galw’n Romneys Hauora


Dechreuon ni ddilyn model yn seiliedig ar ddulliau Seland Newydd, ac rydym erbyn hyn yn symud tuag at ddulliau adfywiol, a’r bwriad yw cyflwyno gwartheg i’r cylchdro. Mae ein cyfrif banc bellach yn anadnabyddadwy.


Mae hyn wedi ein annog i ddarganfod mwy am y dulliau ffermio yma, eu cymryd cam ymhellach, a darganfod sut i wirioneddlol helpu’r amgylchedd, cynhyrchu bwyd o safon ynghyd a gwneud elw.

Roeddem yn meddwl drwy gydweithio a CAFC fedrwn rannu beth rydym wedi ei ddysgu’n barod, darganfod beth mae eraill yn eu gwneud, yna cyflwyno’r achos i’r llwyodraeth i’n helpu creu byd gwell i BAWB.


Felly, dewch i fwynhau’r diwrnod a chlywed rai o’r siaradwyr mwyaf adnabyddus yn y maes. Mi fydd cinio bendigedig yn cael ei baratoi gan Bryn Williams, ac yna gan Chris Roberts, y ‘Flamebaster’ar ol y siarad. I gloi’r diwrnod, mae gennom gerddoriaeth gwych ar eich cyfer gan y ‘Stud Band’, a’r unigryw ‘Farmer of Funk’. 


Hyn oll i’w olchi lawr efo’r cwrw a gwirodydd lleol gorau.

Rhaglen y dydd

09.45

CYFLWYNIAD gan Davina a Harry Fetherstonhaugh

10.00

JOEL WILLIAMS – i’w ddilyn gan gwestiynau o’r gynulleidfa

11.00   COFFI

11.30

Prysor Williams, Patrick Holden, ffinlo Costain, Graham Harvey - Chaired by Rhys Williams


Trafodaeth banel ar wyddoniaeth amaeth adfyw i ddilyn gyda chyfraniadau o’r llawr………..o dan gadeiryddiaeth Rhys Williams


12.30

Manteision ariannol ac amgylcheddol amaeth adfyw….o dan gadeiryddiaeth H


CINIO  - 

2.30

Trafodaeth panel gyda cwestiynau o’r gynulleidfa

3.30    Egwyl

3.45

Panel o wleidyddwyr a gwarchodwyr helwriaeth

Patrick Holden, Dafydd Finch - Chaired by Amber Rudd


5.00    

7.00

CERDDORIAETH GAN Y GWYCH ‘POLICE DOG HUSBAND’ A‘R DJ ‘FARMER OF FUNK’

Cwestiynau

Rydym yn gobeithio ateb rhai o’r o’r cwestiynau sydd gennych wrth gychwyn y daith lawr y llwybyr adfywiol. Sut i ddefnyddio’r haul, y pridd, eich porfa a’ch anifeiliaid i’r mantais orau. Gweithio gyda natur.Mae’r haul a’r pridd am ddim, os y gellwch eu gwneud i weithio o’ch plaid. Nid yn unig y gallent uchafu eich elw, ond hefyd bod o fudd i’r amgylchedd. Pridd iachach, porfeudd gwell, anifeiliaid iachach. Porfa gwell, mwy o ffotosynthesis.Mwy o ffotosynthesis , ymafaeliad mwy o garbon. Ymafael mwy o garbon, llai o newid hinsawdd. Mae’n sefyllfa ble mae pawb ar eu henill, cwbl sydd angen yw cynllun, dewrder, a rhywfaint o gyllid cychwynnol

Bwyd

WRydym yn hynod falch i groesawu dau dalent coginio lleol anhygoel i Da Byw.

Cafodd Bryn Williams o’r ty bwyta eiconig Odettes, Llundain, ei eni a’i fagu yn Ninbych, ac erbyn hyn yn un o gogyddion gorau Ewrop. Mae’n ymwneud a thai bwyta o Fae Colwyn i’r Swisdir, ond yn hogyn lleol yn y bon. Mi fydd Bryn yn paratoi cinio bendigedig yn llawn cynhwysion lleol, sydd, diolch i Bryn a’n noddwyr, wedi ei gynnywys ym mhris y tocyn.


Yn y prynhawn,o Gaernarfon, mae gennym Chris Roberts, yr enwog ‘Flamebaster’. Mi wnai Chris eich bwydo ar ol yr holl siarad, a’ch paratoi ar gyfer adloniant gyda’r nos. Rwy’n sicr y mwynhewch ei draddodi cymaint a’i fwyd, sy’n anhygoel o dda. Rhaid pwysleisio bod lle posib, mi fydd yr holl fwyd sy’n cael ei baratoi wedi ei dyfu neu fagu o fewn 10 milltir, ac unai wedi bwyta dim ond porfa neu dyfu heb chwyn a phlaladdwyr


Adloniant

I gloi’r diwrnod, mae’n bleser cyflwyno dau ddileit cerddorol i chi. Yn gyntaf yw’r cyfuniad o Lundain ‘POLICE DOG HUSBAND’ Cafodd y band ei greu yn 2017 gydag un bwriad – cyflwyno ‘bluegrass punk’ i Ogledd Cymru. Mae’n debyg eu bod yr unig grwp yn y DU sy’n medru denu torfeudd yn y ‘Windmill’ yn Brixton yn ogystal a gwyl werin Sidmouth. Band cloriau sy’n plygu genre, maent wedi derbyn eu ysbrydoliaeth o ddyfnderau ffynnon cerddorol Prydain, ynghyd a dogn iach o ‘Americana’. Hwn fydd eu perfformiad cyntaf gyda’r aelodau presennol.


Hefyd yn bresennol bydd yr unigryw ‘Farmer of Funk’ i weithio’r trofwrdd, a’ch bywiogi a darparu’r egni am weddill y noson. Cafodd y Farmer ei eni a’i fagu ar fferm fynydd yn Cumbria, ac wedi bod yn DJ hyd a lled y wlad, yn chwarae ei gasgliad gwych ac amrywiol o finyl i bleser y rhai craff sy’n hoff o gerddoriaeth o Orllewin yr Alban i Gernyw.


Bar cyflawn gyda cwrw a gwirodydd lleol

Share by: